Skip to the content

Cynnal y Cardi – Hysbysiad Preifatrwydd

 

Y DIBENION Y DEFNYDDIWN EICH DATA PERSONOL AR EU CYFER

 

Defnyddiwn eich data personol ar gyfer y dibenion canlynol:

  • Asesu ceisiadau am gymorth cyllid o dan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 -2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
  • Darparu cymorth cyllid
  • Prosesu taliadau ariannol
  • Coladu data monitro i ddangos allbynnau prosiect
  • Coladu data at ddibenion gwerthuso
  • Cydymffurfio â gofynion archwilio

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

Cydymffurfio â'n dasg gyhoeddus i roi cymorth i sefydliadau a chymunedau gwledig Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu tystiolaeth o gyllid a gwerthuso prosiectau, a gwybodaeth allbwn ac archwilio i gyrff cyllido {[Rheoliad Omnibws (UE, Euratom) 2018/1046],[Erthyglau 42-44, Rheoliad Datblygu Gwledig (UE) Rhif 1305/2013],[Erthyglau 32-35, Rheoliad Darpariaethau Cyffredin (UE) Rhif 1303/2013 ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd],[Rhaglen Datblygu Gwledig (Cymru) Rheoliad 2014 OS Rhif 3222 (W.327)}.

Lle y byddwn yn dymuno cynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i gyhoeddi ffotograffau a/neu ffilmio. Cynhyrchiwn gylchlythyr i ddarparu gwybodaeth am brosiectau; os ydych am dderbyn yr ohebiaeth hon, byddwn yn gwneud cais am eich cydsyniad. Lle rydym yn dibynnu ar gydsyniad ar gyfer prosesu eich data, gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

 

BETH OS NAD YDYCH YN DARPARU DATA PERSONOL?

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gall hyn arwain at fethu â darparu cyllid prosiect.

Lle mae angen eich cydsyniad ar gyfer darparu gwasanaeth, heb eich cydsyniad ni fyddwn yn gallu rhoi'r gwasanaeth i chi.

 

 

PA FATH O WYBODAETH YDYM YN EI DEFNYDDIO?

Gall yr wybodaeth a geisiwn gennych gynnwys gwybodaeth bersonol, megis:

Enw;

Cyfeiriad;

Dyddiad geni;

Rhyw;

Cyfeirnod unigryw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad ebost;

Manylion banc/talu;

Manylion cyflogres

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Eich amgylchiadau ariannol;

Manylion cyflogaeth ac addysg;

Delweddau/ffotograffau;

Rhif cofrestru'r cerbyd;

 

 

YDYM NI'N DEFNYDDIO GWYBODAETH A DDERBYNIWYD O FFYNONELLAU ERAILL?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, casglwn ddata personol yn uniongyrchol gennych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

 

 

TROSGLWYDDO EICH GWYBODAETH DRAMOR

Er mwyn darparu cylchlythyron, gall enwau a chyfeiriadau ebost gael eu rhoi i MailChimp. Mae gweinyddwyr MailChimp wedi'u lleoli yn yr Unol Daleithiau [ac wedi'u cwmpasu gan gytundeb PrivacyShield dilys]

 

 

GYDA PHWY ALL EICH GWYBODAETH GAEL EI RHANNU (YN FEWNOL AC YN ALLANOL)?

Gallwn rannu eich gwybodaeth â'r derbynyddion canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

Yn fewnol:

Staff o fewn y maes Gwasanaeth Economi ac Adfywio a meysydd Gwasanaeth eraill.

 

Cyllid:

Yn dibynnu ar y prosiect, gall data gael ei rannu â'r maes gwasanaeth sy'n llywodraethu'r maes penodol o gyfrifoldeb ar gyfer y prosiect hwnnw. (Er enghraifft, os oes elfen addysgiadol i'r prosiect, gall yr wybodaeth gael ei rhannu â'r Gwasanaeth Ysgolion).

 

Yn allanol:

  • Aelod o Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi a Sefydliadau Ymgynghori
  • Adrannau Llywodraeth y DU
  • Swyddfa Archwilio Cymru
  • Cyrff Cyhoeddus neu Asiantaethau Noddedig Llywodraeth Cymru
  • Y Comisiwn Ewropeaidd


Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y gall fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:

 

  • Ble mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu gwybodaeth o dan y gyfraith
  • Lle mae'n ofynnol i ddatgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae'r datgeliad er lles hanfodol y person dan sylw.