Skip to the content

Amdanom Ni

CYNNAL Y CARDI

Mae Cynllun Corfforaethol Ceredigion wedi nodi mai rhoi hwb i'r economi yw un o brif blaenoriaethau Cyngor Sir Ceredigion, gan ein bod yn sylweddoli'r angen i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd gennym i roi cyfleoedd i'n pobl a'n mentrau i dyfu a ffynnu yma yng Ngheredigion.

Mae’r Strategaeth yn eistedd o fewn yr adran Twf a Menter, Cyngor Sir Ceredigion gyda thîm Cynnal y Cardi yn cyflawni gweithgarwch y prosiect ar lawr gwlad.

Nod y prosiect yw ysgogi gweithgareddau arloesol sy'n cynyddu gwerth a'r amrywiaeth o gyfleoedd economaidd cynaliadwy ar gyfer pobl Ceredigion.

Gallwn ni helpu gyda:

  • Datblygu Prosiect
  • Prosiectau Peilot
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Hwyluso
  • Hyfforddiant
  • Mentora