Skip to the content

Natur a Ni – y sgwrs genedlaethol am amgylchedd naturiol Cymru

Dros y deg wythnos nesaf, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cynnal sgwrs Cymru gyfan am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol. Natur a Ni yw’r enw arni. Mae Natur a Ni yn golygu sgwrs genedlaethol pobl Cymru am yr amgylchedd naturiol. Y nod yw datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y flwyddyn 2020 ac ystyried y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud yn y cyfnod sy’n arwain at 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.

Rydym yn awyddus i bawb yng Nghymru gael dweud eu dweud ac mae llawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan : cwblhau arolwg Natur a Ni, cymryd rhan yn un o'n digwyddiadau ar-lein neu wirfoddoli ar gyfer grŵp ffocws. Mae'r rhan fwyaf o hyn ar-lein ond mae cymorth ar gael i'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddach defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae’r amgylchedd naturiol yn hanfodol i bob un ohonom: mae’r argyfyngau hinsawdd a natur eisoes yn digwydd ac yn effeithio ar bob un ohonom. Mae sgyrsiau am bwysigrwydd cymryd camau gweithredu dros ein hamgylchedd naturiol hefyd wedi bod yn cynyddu dros nifer o flynyddoedd. Dyna pam mae angen gweledigaeth a rennir arnom – gweledigaeth sydd wedi’i datblygu ar y cyd â phobl Cymru y gallwn ni i gyd ei chefnogi a cheisio ei chyflawni. Nid dyma fydd gweledigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru – bydd yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Cynhelir rhan gyntaf yr ymgyrch ar-lein yn www.naturani.cymru – ac mae’r cyfan yn dechrau ar 17eg o Chwefror 2022. Fodd bynnag, rydyn ni’n ysgrifennu atoch ymlaen llaw i ofyn am eich cymorth a’ch cefnogaeth i ledaenu’r gair a sicrhau bod cynifer o bobl ag y bo modd yn cymryd rhan.

Heddiw, rydyn ni’n rhannu dolen i Becyn Cymorth Rhanddeiliaid Natur a Ni. Mae'n cynnwys nifer o adnoddau ymgyrchu y gellir eu lawrlwytho (e.e. graffeg, fideos, delweddau, posteri) y gellir eu rhannu'n ddigidol neu wyneb yn wyneb gyda'ch rhwydweithiau. Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau o gynnwys, y gellir eu postio fel negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol (gan ddefnyddio'r hashnod #NaturANi) neu eu rhannu fel erthyglau trwy eich gwefan, cylchlythyrau mewnol neu allanol. Mae'r rhain yn esbonio sut y gall pobl gymryd rhan a dweud eu dweud.

I gael mynediad at y pecyn cymorth, dilynwch y ddolen a nodi eich manylion Pecyn Cymorth Natur a Ni i Randdeiliaid.

Pecyn Cymorth

Caiff eich data personol ei brosesu yn unol â gofynion GDPR ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw un y tu allan i raglen Natur a Ni. Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Rydyn ni'n rhannu'r pecyn cymorth hwn gyda chi heddiw i'w gwneud hi'n haws cynllunio sut a phryd y byddwch chi'n defnyddio'r deunyddiau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad ydych yn rhannu’r deunyddiau hyn yn gyhoeddus, nes bod y sgwrs genedlaethol yn agor yn swyddogol am 09:00AM ar 17eg o Chwefror.

Mae dod â sefydliadau ac unigolion at ei gilydd a dechrau sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol yn gam cyntaf pwysig wrth ddatblygu gweledigaeth a rennir. Os gallwch gefnogi’r ymgyrch, anfonwch e-bost atom yn naturani@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a rhoi gwybod i ni sut rydych yn bwriadu rhannu’r cynnwys.

Os ydych yn gwybod am unrhyw un arall a allai fod â diddordeb hefyd ac sy’n barod i gymryd rhan, mae croeso i chi eu rhoi mewn cysylltiad â ni neu drosglwyddo eu manylion.

Diolch ymlaen llaw am unrhyw gefnogaeth y gallwch ei rhoi i ymgyrch Natur a Ni. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.

Am yr awdur

Cynnal Y Cardi