Skip to the content

SUT I WNEUD CAIS

Y BROSES GWNEUD CAIS

 

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn syniadau ar gyfer prosiectau cydweithredu yn unig.


Rydym bellach wedi ymrwymo mwyafrif ein cronfeydd ond rydym yn adolygu ein sefyllfa ariannu yn barhaus wrth i weithgaredd cyfredol y prosiect fynd yn ei flaen a byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiweddariad ar ein gwefan.

Os oes gennych chi gydweithrediad neu syniadau prosiect eraill ac yr hoffech gael cymorth i'w symud ymlaen, cysylltwch â'r tîm trwy cynnalycardi@ceredigion.gov.uk os oes angen i chi drafod hyn ymhellach.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Gweld siart lif y broses gwneud cais.

 


 

PROSES 1

GWEITHGARWCH DICHONOLDEB AC YMCHWIL AR RADDFA FACH AC YMGYNGHORI (HYD AT £10,000)

 

Bydd hyn yn dilyn proses un cam - sy'n cynnwys cwblhau ffurflen gais syml.

  • Bydd gweithgareddau cymwys yn cynnwys:
  • Astudiaethau dichonoldeb.
  • Gwaith ymchwil ar raddfa fach.
  • Ymarferion ymgynghori.
  • Costau cyflenwi sy'n gysylltiedig â'r uchod e.e. costau staff, amser gwirfoddolwyr ac ati.

 

Bydd y Grŵp Gweithredu Lleol yn sgorio'r cais yn seiliedig ar y meini prawf canlynol.

 

MEINI PRAWF SG​ÔR
A yw'n cydweddu â'r broses syml? Y/N
Ydy'r Grŵp Gweithredu Lleol yn hoffi'r syniad? Y/N
A yw'n cydweddu â blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol? 25
A yw'n ymateb i angen penodedig? 15
Cyflenwi'r targedau a'r canlyniadau 10
Gwerth am arian (o ran y cydbwysedd rhwng costau ac allbynnau arfaethedig) 5
Cyfanswm 55

 


 

PROSES 2

YR HOLL WEITHGARWCH LEADER ARALL

 

CAM 1

DATGANIAD O DIDDORDEB

 

Mae'r broses Datganiad o Ddiddordeb yn ymwneud yn bennaf â gwirio cymhwysedd y cais a chydnabod ei botensial. Ar ôl derbyn y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, bydd tîm Cynnal y Cardi yn gwirio a yw'n gymwys, yn cydweddu â'r Strategaeth Datblygu Lleol a'i fod yn dilyn egwyddorion LEADER. Caiff sylwadau eu rhoi hefyd gan y Grŵp Gweithredu Lleol.

Yna caiff y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ei thrafod gan y Grŵp Gweithredu Lleol. Bydd y Grŵp Gweithredu Lleol yn penderfynu p'un ai i wahodd yr ymgeisydd i baratoi a chyflwyno cais llawn. Ni fydd unrhyw sgorio ffurfiol. Bydd trafodaethau'r Grŵp Gweithredu Lleol yn seiliedig ar y canlynol.

  • A yw'n cydweddu â blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol?
  • A yw'r Grŵp Gweithredu Lleol yn hoffi'r syniad?
  • A yw'n dilyn egwyddorion LEADER?
  • A yw'n gymwys?
  • A yw'n ymateb i angen penodedig?

Gall ymgeiswyr ailgyflwyno ei Ddatganiad o Ddiddordeb, neu os nad yw'n addas ar gyfer cymorth LEADER, caiff ymgeiswyr eu cyfeirio at raglen gyllido fwy addas.

 

CAM 2

CAIS LLAWN

 

Caiff y ffurflen gais lawn ei hasesu a'i sgorio gan Grŵp Dethol ac Arfarnu Cynnal y Cardi yn erbyn y meini prawf penodedig canlynol.

 

MEINI PRAWF SG​ÔR
Cydweddu â'r Strategaeth Datblygu Lleol? 20
Tystiolaeth o angen a galw a phriodoldeb lleol 15
Arloesi 10
Yn cyfateb â mentrau perthnasol eraill 5
Rheoli Prosiectau 5
Cynaliadwyedd 20
Cymhwyster a chyllid 20
Themâu trawsbynciol 5
Allbynnau 10
Canlyniadau ac Effeithiau 10
Gwerth am arian (o ran cydbwysedd rhwng costau ac allbynnau arfaethedig) 10
Cyfanswm 110

 

CYSYLLTWCH Â'N TÎM CYFEILLGAR

Cysylltu â ni

Ebost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk  Ffôn: 01545 570881

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni.

 

Mae 'Enw cyntaf' yn faes angenrheidiol
Mae 'Enw olaf' yn faes angenrheidiol
Rhowch gyfeiriad Ebost dilys