Cliciwch yma i weld y poster:  FBA poster

 Ar ddiwrnod godidog o haf, daeth mwy na 2,000 o bobl ynghyd i ddathlu treftadaeth gyfoethog Aberystwyth, gan fwynhau straeon hudolus am dylwyth teg a gwrachod, hamddena yn sŵn cerddoriaeth ganoloesol a mynd ar deithiau o amgylch y castell a’r dref. Roedd digonedd o gyfleoedd hefyd i gael profiadau ymarferol wrth i bobl roi cynnig ar grefftau traddodiadol gan gynnwys gwehyddu basgedi, nyddu a thurnio pren. Roedd y plant wedi cyffroi’n lân wrth iddynt gloddio am drysorau archeolegol, peintio eu hwynebau gan ddefnyddio lliwiau o bob math, a chreu potiau clai rhyfeddol ac anarferol.

 Cliciwch ar y llun i weld y Sioe Sleidiau:

[EasyGallery id=’fba’]

Cafodd prif themâu’r ŵyl eu hysbrydoli gan y castell a adeiladwyd yn y 13eg a thraddodiad Fictoraidd y dref o ran twristiaeth.  Rhoddodd y grŵp ail-greu lleol, Historia Normannis, wefr i’r dorf wrth iddynt arddangos eu harfau a dangos ffordd go wahanol o dorri bresych:

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/fba.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/eng/wp-content/uploads/2012/07/FBA-Event-017.jpg” /]