Mae ‘Prosiect Darganfod Ceredigion’ wedi cael cefnogaeth ariannol drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Llawlyfr Gerddi a Thyfwyr Ceredigion

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/gerddi.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/2012/02/cluster6.jpg” /]

Sir sy’n adnabyddus am ei harfordir naturiol hardd, ei baeau bach hudolus a’i thraethau cudd. Ond mae ganddi sawl cyfrinach arall hefyd. O fentro i’r wlad, fe gewch hyd i gyfoeth o wyrddni ar bob bryn a dôl, ym mhob twll a chornel, ac ar hyd lonydd gwledig tawel ym mhell o firi’r arfordir. Bydd y rheini sy’n hoff o blanhigion o bob lliw a llun wrth eu bodd yn crwydro’r rhannau hyn o Geredigion.

Mae hinsawdd a phridd asidig Ceredigion yn sicrhau’r amodau perffaith i greu paradwys i’r rheini sydd wrth eu bodd â phlanhigion. Yn y gwanwyn, mae ein cloddiau laburnum trawiadol yn goleuo’r tirlun. Mae clychau’r gog yn garped glas ar lawr ein coetiroedd hynafol, tegeirianau’n britho’r glaswellt ar ymyl y ffordd ac eithin yn gorchuddio’r bryniau, gan ychwanegu at y ddrama. Gyda llu o erddi gwych a meithrinfeydd arbenigol yn swatio’n gysurus yn yr harddwch naturiol hwn, a chlwstwr llewyrchus o glybiau a sefydliadau garddio a phlanhigion yn cyfarfod yma, mae gan Geredigion lawer mwy na dim ond arfordir i’w gynnig.

Llwybrau Ffydd Ceredigion

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/ffydd.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/2012/02/cluster11.jpg” /]

Llwybr Cilgwyn a’r Llwybr Undodaidd

Mae’r llwybrau hyn yn rhan annatod o Lwybrau Ffydd Ceredigion. Gallwch grwydro ar eu hyd gan fwynhau prydferthwch cefn gwlad a chymryd amser i aros ac ystyried datblygiad ysbrydol y sir dros y canrifoedd, fel y gwelwn yn ein capeli, ein heglwysi, ein llenyddiaeth a’n traddodiadau.

Cynhyrchwyr Caws Dyffryn Teifi

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/gaws.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/2011/11/cluster22.jpg” /]

O ystyried ei phorfeydd ffrwythlon a’i golygfeydd syfrdanol, does dim rhyfedd mai Dyffryn Teifi yng nghanol de-orllewin Cymru, yw ‘Dyffryn Loire’ y busnes gwneud caws yng Nghymru. Mae afon Teifi, sy’n rhoi’r enw i’r ardal, yn dechrau ar ei thaith 75 milltir, 1,500 o droedfeddi i fyny ar ochrau gorllewinol Mynyddoedd y Cambrian. O’r fan honno mae’n troelli trwy gefn gwlad (sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol) safleoedd hanesyddol, pentrefi a threfi nes cyrraedd yr aber yng Ngheredigion a llifo i’r môr ym Mae Ceredigion.

Mae Cwmni Caws Caerfyrddin, Caws Cenarth, Caws Cheddar Organig yr Hafod, Caws Fferm Teifi a Chaws Organig Sanclêr oll yn enwog am eu hansawdd a’u blas. Rydym yn gobeithio y byddwch yn cael blas o’r sgil a’r angerdd sydd gan Gynhyrchwyr Caws Dyffryn Teifi tuag at eu caws, ac y byddwch am eu blasu trosoch eich hunain.

Cab-a-Bag

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/cab.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/2011/11/cluster55.jpg” /]

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn taith 60 milltir/cilomedr rhwng aber afon Teifi yng Ngheredigion ac aber afon Dyfi yn Borth.

Defnyddiwch Gynllun Cab-a-Bag Ceredigion i gludo’ch bagiau o un llety i’r nesaf ar hyd y llwybr.

Mae modd dilyn y llwybr fel a ganlyn:

  • Ynyslas i Aberystwyth               11.7 m / 18.7 cilomedr
  • Aberystwyth i Lanrhystud                     10.6 m / 15.7 cilomedr
  • Llanrhystud i Aberaeron           7.4 m / 11.9 cilomedr
  • Aberaeron i Geinewydd                        6.5 m / 10.5 cilomedr
  • Ceinewydd i Langrannog                    9.4 m / 15.0 cilomedr
  • Llangrannog i Aber-porth                     4.8 m / 7.7  cilomedr
  • Aber-porth i Geredigion                        11.7 m /18.7 cilomedr

Cynllun Croeso i Gerddwyr

[hana-flv-player video=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/vids/cerddwyr.flv” width=”320″ height=”240″ description=”” player=”3″ autoload=”false” autoplay=”false” loop=”false” autorewind=”true” splashimage=”http://www.cynnalycardi.org.uk/cym/wp-content/uploads/2012/02/cluster4.jpg” /]

Mae nifer o gymunedau wedi cael statws ‘Croeso i Gerddwyr’.

Llwybrau Llandysul
Llandysul a Phont Tyweli oedd yr ardal gyntaf yng Ngheredigion i gael y statws yma, ac felly mae’n sicrhau bod llwybrau yn cael eu cadw ar agor a bod cerddwyr yn cael croeso gan fusnesau lleol.

Gellir cael gwybodaeth leol yn Llyfrgell Llandysul (Ar agor o 10am – 5pm, ac ar gau ar ddydd Mercher a dydd Sul)
Canolfan Groeso Aberteifi –
Ffôn – 01239 613 230
E-bost: CardiganTIC@Ceredigion.gov.uk
www.llandysul-ponttyweli.co.uk

Llwybrau Tregaron

Beth am ymuno â Chlwb Cerdded Crwydro Caron? Sefydlwyd y Clwb yn 2003, a bellach mae dros 100 o bobl yn aelodau o’r clwb sy’n cynnal teithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn. Ceir amrywiaeth o deithiau cerdded a heriau at ddant pob cerddwr. Am fwy o wybodaeth ewch at www.walktregaron.co.uk