Pencampwriaeth Aredig y Pum Gwlad a Chymru Gyfan 2012

Mae Cynnal y Cardi’n darparu cefnogaeth a chymorth ariannol i hyrwyddo ac i hwyluso Pencampwriaeth Aredig y Pum Gwlad a Chymru Gyfan ym Morfa Mawr yn Llanon ar 21 a 22 Medi 2012.

Dau grŵp rhanbarthol sydd wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf i ffurfio Cymdeithas Aredig Ceredigion yw Cymdeithas Aredig CFfI Llandygywydd a Chymdeithas Aredig Gogledd Ceredigion, a hynny er mwyn llwyfannu’r digwyddiad uchod.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cystadlaethau aredig traddodiadol a modern a bydd yn fodd o ennill lle ym Mhencampwriaethau Aredig Ewrop a’r Byd yn 2013.

Bydd Cynnal y Cardi hefyd yn hwyluso ‘pentref crefftau lleol’ yn y digwyddiad.