Nod y prosiect hwn yw dwyn ynghyd sefydliadau ar draws y sector coetir ac amgylcheddol yng Ngheredigion er mwyn hyrwyddo, datblygu ac adfywio’r tir o gwmpas Bwa’r Hafod ger Pontarfynach, allan am Gwmystwyth a Chanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, gyda’r nod o wneud newid cadarnhaol i gydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal, gan gysylltu agendâu amgylcheddol a chymdeithasol yn yr ucheldiroedd.
Nod y prosiect yw:
- cynyddu twristiaeth trwy ymchwilio i lwybrau, cyfleusterau a gweithgarwch plannu coed newydd sy’n addas ar gyfer dyfodol ucheldiroedd Cymru ar dir o gwmpas ystad Hafod
- ymchwilio i fwy o gydnerthedd ymhlith coed, planhigion a phridd, gan ymateb i’r newid yn yr hinsawdd/plâu a chlefydau
- ymchwilio i gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ychwanegol yn yr ucheldiroedd
- cynnwys grwpiau cymunedol mewn gweithgareddau iechyd a lles
- hyrwyddo modelau gwaith traws-sector
- ymchwilio i’r gwaith o wella cynaladwyedd economaidd coetiroedd ac ucheldiroedd gwledig
- ymchwilio i weithgarwch arallgyfeirio o ran defnyddio tir yn dilyn y cyfnod pontio o UE
Astudiaeth Dichonoldeb ‘Coedardd Ucheldirol’ – Adroddiad Cam 1 – Terfynol: Mai 2018