Karina Shaw a Dr Alan Chamberlain o Grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, Fforwm Gymunedol Penparcau
Karina Shaw a Dr Alan Chamberlain o Grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, Fforwm Gymunedol Penparcau

Cafodd digwyddiad ei gynnal ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill 2017 ym Mhenparcau i ddathlu darganfyddiadau newydd a chyffrous ym mryngaer Pen Dinas.

Cafodd arolwg geoffisegol ei gynnal ar 5 a 6 Ebrill eleni am y tro cyntaf erioed  gan dîm o archeolegwyr o Archeoleg Cymru, Trysor a nifer o bobl leol o Fforwm Cymunedol Penparcau.                                                       

Mae’r arolwg yn dangos bod mwy o archeoleg wedi goroesi yn y fryngaer na’r hyn sydd ar yr wyneb, ac felly pwy a ŵyr pa ddarganfyddiadau eraill sy’n aros ar y safle. Mae nifer o gylchoedd cutiau posibl, safleoedd adeiladau crwn nodweddiadol o Oes yr Haearn, yn ogystal â thystiolaeth o gafnau megis chwareli bychain ar hyd ochr ddwyreiniol y gaer.

Yn ddi-os y darganfyddiad pwysicaf yw mai beddrod crwn o’r Oes Efydd yw’r twmpath bach ar ben y bryn. Dyma i chi feddrod rhywun pwysig iawn a gafodd ei gladdu yma dros 3500 o flynyddoedd yn ôl.

“Dyma’r tro cyntaf i neb ddarganfod heneb o Oes yr Efydd ym Mhenparcau ac Aberystwyth,” esbonia’r Dr Alan Chamberlain sy’n byw’n lleol ac sydd yn un o Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau. “Mae’r darganfyddiad yn newid ein dealltwriaeth ni o Ben Dinas a’r cyffiniau. Mae’n golygu bod y bryn yn lle hynod bwysig ymhell cyn dyddiau’r fryngaer ei hun.” 

Ychwanega: “Buasai trigolion Oes yr Efydd yn byw mewn cymdeithas soffistigedig a threfnus, yn ffermio’r tir oddeutu’r bryn.  Mae cryn ddyfalu ynglŷn â lle’n union oedd aneddiadau’r bobl yma, ond rhaid eu bod wedi codi eu golygon tuag at Ben Dinas gyda’r un ymdeimlad o ryfeddod ag y mae pobl heddiw’n ei wneud.”

“Iddyn nhw roedd yn lle i gladdu rhywun o bwys, efallai’n dirwedd sanctaidd, o ble y gallai eu hynafiad wylio drostynt. Tybed a oedd trigolion y fryngaer yn ystod yr Oes Haearn yn gwybod am y beddrod hynafol yma pan aethant ati i adeiladu’r gaer?”

“Mae’r darganfyddiadau yma’n ailysgrifennu hanes Penparcau, Aberystwyth a Chymru. Mae’n hynod gyffrous ac mae o bwys cenedlaethol! Mae’n hynod bwysig, yn enwedig o gofio mai’r gymuned yn lleol a sbardunodd y gwaith – mae’n rhyfeddol meddwl bod gan Benparcau ei ‘Dîm Amser” ei hun.

Dywedodd John Davies, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Cyngor Sir Ceredigion: “Nod y prosiect yw parhau â gwaith da pawb, a defnyddio’r dechnoleg ddigidol i hybu’r elfen leol.” Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn denu mwy o ymwelwyr i’r safle ac yn hybu twristiaeth ac addysg ac yn gwella’r ymdeimlad o le.”

Mae’r arolwg yn rhan o brosiect cymunedol dwyieithog treftadol ac amgylcheddol arloesol sy’n dwyn yr enw ‘Bryngaer Pen Dinas: Archwilio’r Arfordir Celtaidd’, a ddatblygwyd gan Grŵp Hanes a Threftadaeth Fforwm Cymunedol Penparcau.

Cafodd y prosiect gymorth gan LEADER trwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi a chyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect hefyd yn derbyn cymorth gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Mae’r prosiect yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr yn leol, ac felly os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn cysylltwch â: contact@Penparcau.cymru

Bryngaer Pen Dinas: Archwilio’r Arfordir Celtaidd: Cefndir y prosiect.