Cynnal y Cardi: Sut allech chi gefnogi eich cymuned leol?
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn i ddatblygu mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion.
Nod LEADER yw gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig drwy ddefnyddio dull penodol iawn o weithio, sy’n cynnwys ymgysylltu ag unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol, gan feithrin eu gallu i gyflawni, eu cyfranogiad a’u mentora. Y bwriad yw creu cysylltiadau â chymunedau ar lawr gwlad er mwyn annog ffyrdd newydd a blaengar o gynnal yr economi yng nghefn gwlad drwy ymchwilio, treialu a pheilota gweithgaredd.
Gallwn eich cynorthwyo gyda:
Datblygu Prosiectau - Gwerthuso - Peilota Prosiectau
Astudiaethau Dichonoldeb - Hwyluso - Hyfforddiant - Mentora - Ymgynghori
Ffôn: 01545 572063
Ebost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
Mae Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi wedi nodi nifer o flaenoriaethau sydd wedi’i gosod allan o fewn y pum thema LEADER. Rhaid i unrhyw syniad weithredu o dan o leiaf un o'r rhain a chadw at egwyddorion allweddol LEADER. Ymweld â'r tudalen Galw am Syniadau am Brosiectau Lleol Arloesol i gael manylion pellach am gyflwyno eich syniad.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Strategaeth Datblygu Lleol LEADER Cynnal y Cardi - Dogfen Gryno
Gall hyd yn oed y syniad symlaf gael yr effaith fwyaf.